Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1966 |
Cylchgrawn llenyddol Sbaeneg oedd Mundo Nuevo a gyhoeddwyd ym Mharis ym 1966–68 ac yn Buenos Aires ym 1968–71.
Sefydlwyd y cylchgrawn gan y beirniad o Wrwgwái Emir Rodríguez Monegal er mwyn hyrwyddo a thrafod llên America Ladin, yn enwedig awduron yr avant-garde a nofelwyr el boom latinoamericano. O'r cychwyn, yn "Presentación" y rhifyn cyntaf, amlinellodd Rodríguez Monegal ei weledigaeth ar gyfer cylchgrawn i ddathlu a beirniadu llên America Ladin. Cyhoeddwyd hefyd yn rhifyn cyntaf Mundo Nuevo ymgom rhwng Rodríguez Monegal a Carlos Fuentes, sydd yn pwysleisio cosmopolitaniaeth y deallusyn a'r penderfyniad i gyhoeddi'r cylchgrawn ym Mharis er mwyn osgoi unrhyw blwyfoldeb diwylliannol a fyddai o ganlyniad i'w gyhoeddi mewn un ddinas yn America Ladin.[1]
Dan arweiniad Rodríguez Monegal, cafodd y cylchgrawn ddylanwad pwysig ar fywyd llenyddol America Ladin. Hyrwyddwyd rhyddieithwyr megis Gabriel García Márquez, Carlos Fuentes, Mario Vargas Llosa, Julio Cortázar, a José Donoso, a chyhoeddwyd yn y cylchgrawn weithiau cynnar gan Guillermo Cabrera Infante, Severo Sarduy, Manuel Puig, a llenorion eraill. Yn ogystal â chyhoeddi gweithiau gwreiddiol a hyrwyddo awduron newydd, rhoddwyd sylw i gynadleddau a gwobrau llenyddol, cyfieithiadau, a beirniadaeth lenyddol yn yr adrannau newyddion "Brújula" a "Sextante". Datganodd Rodríguez Monegal niwtraliaeth ideolegol ei gylchgrawn, er yr oedd yn fodlon i alluogi mynegiant gwleidyddol gan ysgrifwyr unigol, er enghraifft llythyr agored gan Vargas Llosa ar bwnc achos Sinyavsky–Daniel yn yr Undeb Sofietaidd.[1]
Bu rhai o'r adain chwith yn America Ladin, yn enwedig yng Nghiwba, yn cyhuddo bwrdd golygyddol Mundo Nuevo o duedd wleidyddol yn groes i'r adain chwith. Ym 1966 cyhoeddwyd erthygl yn The New York Times yn honni bod y CIA yn gudd-ddylanwadu ar gylchgronau diwylliannol drwy ariannu sefydliadau gwrth-gomiwnyddol. Bu un o'r grwpiau hynny, y Congress for Cultural Freedom, yn cyfrannu at goffrau Mundo Nuevo. Er i Rodríguez Monegal fynnu annibyniaeth ideolegol ei gylchgrawn, fe ymddiswyddodd yr olygyddiaeth ym 1968 a symudodd swyddfeydd Mundo Nuevo i Buenos Aires.[1]
Yn ystod ei flynyddoedd olaf, cyhoeddwyd dadleuon diddorol am bynciau newydd yn llên America Ladin, megis la nueva novela. Er gwaethaf, teflid amheuaeth ar y cylchgrawn gan y sgandal ynghylch ei nawdd ariannol, a chrebachodd ei dylanwad ar fyd llenyddiaeth. Aeth Mundo Nuevo i'r wal ym 1971 wedi i'r Ford Foundation wrthod ei ariannu bellach, a rhifyn 58 oedd yr olaf.[1]